Tony Bianchi
Tony Bianchi sy’n ennill y Fedal Ryddiaith eleni mewn cystadleuaeth a ddenodd bymtheg o ymgeiswyr, gyda thri ohonynt yn deilwng o’r Fedal ei hun.
Dwy neu Dau oedd y testun eleni, ac yn ôl y beirniad, Mari Emlyn, llwyddodd y testun i ysbrydoli’r awduron i archwilio trawstoriad eang o themâu, gydag amryw yn delio neu’n cyffwrdd â thema galar a cholled.
Cyflwynwyd y Fedal a’r wobr ariannol o £750 gan bapur bro ‘Plu’r Gweinydd’.
Cafodd Tony Bianchi ei eni yn 1952 yn North Shields, Northumberland cyn astudio ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, lle wnaeth ddysgu Cymraeg.
Wedi cyfnodau yn Shotton ac Aberystwyth, ymgartrefodd yng Nghaerdydd, gan weinyddu grantiau ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru am yn agos i chwarter canrif. Ei nofel gyntaf oedd Esgyrn Bach (Y Lolfa, 2006).
Cyhoeddodd bedair nofel arall: Pryfeta (Y Lolfa, 2007), a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint, Chwilio am Sebastian Pierce (Gomer, 2009), Bumping (Alcemi, 2010) a Ras Olaf Hari Selwyn (Gomer, 2012); a chyfrol o storïau byrion, Cyffesion Geordie Oddi Cartref (Gomer, 2011).
Daeth rhai o’i englynion i sylw darllenwyr trwy gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol a Barddas. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i gymar, Ruth, ac o fewn pellter seiclo i’w blant, ei wyrion a’i wyresau.
‘Nofel athronyddol’
Wrth draddodi’r feirniadaeth o lwyfan y Pafiliwn ar ran ei chyd-feirniaid, Jerry Hunter a Manon Steffan Ros, dywedodd Mari Emlyn: “Nofel athronyddol wedi ei lleoli yng Nghaerdydd ydi hi, ond nid man penodol sydd o bwys yma ond teithi meddwl Tomos Glyn Rowlands a’i ddiddordeb obsesiynol mewn synau.
“Cais Tomos wneud synnwyr o’i fywyd yn sgil y synau a glyw: ‘Mae modd clywed ychydig a deall y cwbl. Ond mae modd clywed y cwbl a deall dim.’
“Yn wir, roedd y tri ohonom yn gytûn bod hwn yn waith cyffrous ac yn delynegol o athronyddol gan ein denu i fyd od Tomos Glyn Rowlands. Dyma un o ysgrifenwyr mwyaf gwreiddiol y gystadleuaeth. Fel y mae synau’n troi ‘n rhan o fyd mewnol Tomos, felly hefyd mae’r nofel afaelgar hon yn tywys y darllenydd i ganfod y byd o’i gwmpas o’r newydd. Dyma waith cynhyrfus a gwreiddiol sy’n codi i dir uchel.”