Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi bod yn dathlu lansiad Canolfan Berfformio Cymru a chwrs newydd mewn digwyddiad arbennig ar stondin y Brifysgol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod heddiw.

Eleni fe fydd cyfle i fyfyrwyr astudio’r cwrs gradd anrhydedd, BA Perfformio, dros gyfnod o ddwy flynedd yng Nghanolfan Berfformio Cymru a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mewnbwn arbenigwyr

Nododd y Brifysgol y bydd y cwrs yn digwydd yng Nghanolfan Gelfyddydol The Gate, Caerdydd gydag ambell gyfnod o addysgu ar y campws yng Nghaerfyrddin yn ogystal â chyfle i astudio yn yr Unol Daleithiau.

Wrth lunio’r cwrs cafwyd mewnbwn gan bobl megis Elen Bowman (cyfarwyddwraig), Aled Pedrick (actor a chyfarwyddwr), Terry Dyddgen-Jones (cyfarwyddwr teledu) a Geraint Cynan (cyfarwyddwr cerdd a chyfansoddwr) ymysg eraill.

Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cydlynydd y cwrs: “Ethos sylfaenol y radd BA Perfformio yw darparu techneg gadarn i fyfyrwyr, law yn llaw â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.”

Bwriad y cwrs ydy paratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd fel perfformwyr proffesiynol, gyda phwyslais arbennig ar yr ochr ymarferol, llais, corff, meddwl a gyrfa.