Huw Lewis
Mae grwpiau crefyddol wedi codi pryderon ynglŷn â newidiadau posib i gwricwlwm Addysg Grefyddol sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Yn ddiweddar fe gyhoeddodd Huw Lewis, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, y gall y pwnc Addysg Grefyddol  gael ei uno gyda Moeseg ac Athroniaeth yn y dyfodol i ‘helpu uno cymunedau’.

Ond mae cyn-bennaeth Canolfan Addysg Grefyddol Cymru wedi cyhoeddi y bydd yna ymgyrch yn cael ei chynnal dros yr haf i wrthwynebu’r newidiadau.

Ac fe fynnodd un o weinidogion yr annibynwyr wrth Golwg360 fod pynciau moeseg ac athroniaeth eisoes yn cael eu dysgu fel rhan o’r cwricwlwm presennol.

Newid i’r cwricwlwm

Yn ôl Rheinallt Thomas, cyn bennaeth Canolfan Addysg Grefyddol Cymru, mae llawer o bobl wedi cael eu cythruddo gan y sefyllfa.

“Mae ‘na lot o bethau sydd ddim yn gwneud synnwyr o gwbl yn y datganiad ddaru slipio allan y pnawn hwnnw,” meddai Rheinallt Thomas ar Radio Cymru.

“Mae addysg grefyddol yn sefyll mewn sefyllfa unigryw – dyma’r unig bwnc yn y cwricwlwm lle mae’r cyngor sir lleol hefo rheolaeth arno.”

Yn ôl y Llywodraeth mi fydd unrhyw newidiadau i Addysg Grefyddol yn digwydd fel rhan o newidiadau ehangach i’r cwricwlwm addysg mewn ysgolion.

‘Pryder’

Fe allai’r cynlluniau wynebu anhawster, fodd bynnag, gan fod “diffyg athrawon mewn moeseg ac athroniaeth” yn ôl y Parchedig Ddoctor Geraint Tudur.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg bod “moeseg ac athroniaeth yn barod yn rhan o Addysg Grefyddol” ac yn “frics sylfaenol o fewn addysg” wrth baratoi pobl ifanc at fywyd cymdeithasol.

Ychwanegodd y byddai’n awyddus i gynnal trafodaethau gyda’r Gweinidog Addysg ac yn estyn gwahoddiad iddo er mwyn cynnal “trafodaeth lawn”.

Rhaid i Lywodraeth Cymru ddysgu gwrando ar y bobl [ac yn benodol arbenigwyr] yn lle dibynnu ar weision sifil,” meddai Geraint Tudur.

Gofod i feddwl

Yn ôl y Parchedig Ddoctor Adrian Morgan, “gwaith y gyfundrefn addysg ydy creu dinasyddion cytbwys â gorwelion eang a helpu unigolion i ddeall eu hunain” ac mae Addysg Grefyddol eisoes yn cynnig y gofod yma.

Dywedodd Anna Jane Evans o Gymorth Cristnogol wrth Golwg360 bod “moeseg ac athroniaeth yn rhan annatod o’r pwnc [Addysg Grefyddol]” a bod Cymorth Cristnogol yn ymweld ag ysgolion i drafod crefydd yng nghyd-destun cymdeithasol a dinasyddiaeth.

Mae grwpiau fel Cymdeithas y Dyneiddwyr a Mudiad Efengylaidd Cymru, fodd bynnag, wedi croesawu’r newyddion.

“Mae unrhyw gyfle sydd yn herio unigolion i holi cwestiynau mawr yn gadarnhaol,” meddai Steffan Job, cyn-athro a Chydlynydd yr Iaith Gymraeg Mudiad Efengylaidd Cymru, gan ddweud mai “cynnwys yn hytrach na theitl y pwnc oedd yn bwysig”.