Ian Jones
Mae Prif Weithredwr S4C wedi rhybuddio ei bod hi’n “gyfnod cythryblus” i’r sianel deledu wrth i gwestiynau am ei dyfodol ariannol barhau.
Pwysleisiodd Ian Jones mewn sgwrs banel ar faes yr Eisteddfod fod pethau wedi newid ers i’r sianel gael ei ffurfio yn 1982 gan gynnwys “cannoedd o sianeli ychwanegol” a bod sawl llwyfan digidol newydd hefyd.
Wrth drafod y gyllideb, dywedodd Ian Jones y byddai’n brwydro i “sicrhau tegwch” i’r sianel ac i’r gwylwyr.
Nid oedd, serch hynny, yn barod i “frwydro’n ymosodol yn gyhoeddus” gan ddweud y byddai’n parhau i gynnal trafodaethau gyda chyrff ac unigolion perthnasol.
“Mynd a’r iaith at y to iau”
Bwriad y drafodaeth ar y cyd â BBC Cymru Wales, S4C, Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Rondo Media oedd “ysgogi sgwrs” am ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru.
Rhaid “mynd a’r iaith at y to iau” oedd un o brif negeseuon y panelwyr, gyda chydnabyddiaeth nad oedd y cyfryngau Cymreig yn gwneud digon i bobl ifanc ond fod cynnig gwasanaeth a chynnwys i bob oedran yn “sialens”.
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, ei fod yn bwysig i’r diwydiant “adlewyrchu Cymru fel y mai hi” drwy gyflwyno cynnwys Cymraeg a Saesneg o safon.
Yr Athro Sioned Davies fynegodd fod gan y diwydiant cyfryngau gyfrifoldeb i feithrin gwrandawyr a datblygu gweithwyr newydd wrth ymateb i batrymau ieithyddol newid.
Ac fe alwodd Dr Rhodri ap Dyfrig ar y gwahanol sefydliadau a chyfryngau i gydweithio yn lle ymddwyn fel “silos” ar wahân.
Cafodd y panel ei gadeirio gan y bargyfreithiwr a’r darlledwr Gwion Lewis.