Nigel Farage
Mae arweinydd UKIP Nigel Farage wedi awgrymu bod gan ei blaid obaith o fod yn brif wrthblaid yn y Cynulliad ar ôl yr etholiadau  y flwyddyn nesaf.

Llwyddodd y blaid i gynyddu ei chyfran o’r bleidlais yng Nghymru yn etholiad cyffredinol 2015 o 2% i 14%, gan ddod yn drydydd o flaen Plaid Cymru, er nad oedd hynny’n ddigon i ennill unrhyw seddi.

Mae polau piniwn diweddar hefyd wedi awgrymu y gallan nhw wneud yn dda yn etholiadau’r Cynulliad yn 2016, gan ennill sawl sedd ranbarthol.

“Rydyn ni’n gryf iawn, iawn yng Nghymru. Mae gennym ni lefel wych o gefnogaeth,” meddai Nigel Farage ar Radio Wales heddiw.

Refferendwm Ewrop

Yn ogystal ag etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai’r flwyddyn nesaf mae sôn o hyd y gallai’r refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd gael ei chynnal yn 2016 hefyd.

Petai’r ddwy bleidlais yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod fe allai UKIP weld hwb sylweddol yn eu pleidlais, yn ôl eu harweinydd, fel yr unig brif blaid sydd yn glir o blaid gadael yr UE.

“Rydw i’n amau, os yw’r etholiadau Cynulliad yna ar yr un pryd neu o gwmpas yr un adeg a refferendwm Ewrop, gyda phroffil uchel UKIP yn yr ymgyrchu, y gallwn ni wneud yn dda iawn,” meddai Nigel Farage.

Dywedodd y byddai ei blaid, oedd yn cael ei “harwain yn dda” gan Nathan Gill yng Nghymru, yn anelu i fod yn brif wrthblaid ar ôl yr etholiadau Cynulliad hynny.

Ond mynnodd na fyddai ef ei hun yn sefyll fel ymgeisydd, gan ddweud bod ganddo “ddigon ar ei blât.”