Trystan ap Owen
Trystan ap Owen o Aberystwyth yw enillydd cyntaf Gwobr Merêd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bydd yn derbyn y wobr mewn digwyddiad arbennig yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod.
Penderfynodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ddyfarnu’r wobr i Trystan ap Owen am yr hyn a gyflawnodd tra’n astudio gradd BA Drama a Theatr trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol De Cymru.
‘Braint enfawr’
Roedd Trystan ap Owen, sydd newydd raddio â gradd dosbarth cyntaf, wrth ei fodd, meddai: ‘‘Roedd cadw’r gyfrinach yn anodd ond mi wnes i ffonio Mam yn syth. Mae derbyn y wobr yma yn fraint enfawr a bydd cael fy nghyflwyno â’r tlws yn yr Eisteddfod yn deimlad rhagorol rwy’n siŵr.’’
Roedd taid Trystan ap Owen, a gafodd ei eni a’i fagu yn Llanegryn, yn adnabod Dr Meredydd Evans a’r teulu’n dda.
‘‘Bydd Merêd yn cael ei gofio am flynyddoedd i ddod ac mae’r wobr hon yn ffordd o ddathlu ei ymroddiad. Mae’n anrhydedd i fod y cyntaf i dderbyn y wobr,” ychwanegodd Trystan ap Owen.
Bu Trystan ap Owen yn gyfrifol am sefydlu Cymdeithas Gymraeg y brifysgol a bu’n gynrychiolydd llais myfyrwyr Cymraeg Prifysgol De Cymru.
Cafodd gyfle hefyd i gynrychioli’r Coleg Cymraeg fel llysgennad a bu’n arwain sesiynau drama dwyieithog i blant yn Sherman Cymru.
‘Herio’
Meddai, Dr Hefin Jones, Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Rwy’n credu byddai’r Dr Meredydd Evans wrth ei fodd gyda phenderfyniad y Panel Dyfarnu. Mae Trystan wedi bod yn fwy na pharod i herio ac i ofyn cwestiynau lletchwith am statws y Gymraeg oddi mewn ac oddi allan i’w sefydliad.
“Heb amheuaeth, mae ei frwdfrydedd a’i ymroddiad i hybu defnydd o’r Gymraeg wedi bod yn dysteb i’w ddewrder, doethineb a’i hynawsedd ynghyd â’i allu i frwydro ac annog.”
Bydd Trystan ap Owen yn derbyn y wobr mewn digwyddiad yn stondin y Coleg Cymraeg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 2yh dydd Mawrth, 4 Awst.