Mae rhybudd o law trwm yng Nghymru fore yfory a fydd yn lledaenu drwy bobman ym Mhrydain ac eithrio gogledd yr Alban yn ystod y dydd.

Fe ddaw’r rhybudd ar ôl i gymaint o law ag a ddisgwylir mewn mis cyfan ddisgyn mewn rhannau o Loegr ddoe.

Er iddi fod yn sychach heddiw, mae rhagor o dywydd gwlyb ar ei ffordd.

“Mae’r dirwasgiad nesaf yn dod i mewn o’r Iwerydd,” meddai Gareth Harvey o’r cwmni darogan tywydd, MeteoGroup. “Fe fydd glaw yn Iwerddon, Gogledd Iwerddon, Cymru a de-orllewin Lloegr erbyn y bore, a bydd fwy neu lai bobman yn cael rhywfaint o law yn ystod yfory, gyda gogledd yr Alban yr unig le a fydd yn ei osgoi. Fe fydd gwyntoedd cryfion hefyd.”

Ar ôl i’r tymheredd godi i hyd at 20 gradd C heddiw, fe fydd yn disgyn eto yfory i 18 gradd, sy’n is na’r cyfartaledd am fis Gorffennaf.

Mae disgwyl y bydd yn dal i fod yn oer ac ansefydlog ddechrau’r wythnos nesaf, heb unrhyw arwydd o’r tywydd poeth a gawson ni ddechrau’r mis.

Diwrnod cyntaf y mis eleni oedd y diwrnod poethaf erioed i gael ei gofnodi ym mis Gorffennaf.