(llun: PA)
Mae gwerth tua £3.7 biliwn o fudd-daliadau sydd i fod i helpu pensiynwyr tlawd yn mynd heb gael eu hawlio bob blwyddyn.

Daeth hyn i’r amlwg mewn astudiaeth gan yr elusen Age UK.

Mae ffigurau swyddogol yn dangos fod tua 1.3 miliwn o bobl oedd â hawl i gredyd pensiwn heb hawlio’r budd-dal hwn yn 2013/14.

Mae cyfanswm y golled hon yn £2.86 biliwn, neu’n gyfartaledd o £2,132 yr un bob blwyddyn.

Yn yr un modd, fe wnaeth tua 260,000 o bensiynwyr golli’r cyfle am fudd-dal tai yn ystod yr un cyfnod, gan ddioddef cyfanswm colled o £820,000 neu tua £3,224 yr un.

Mae’r elusen yn pwyso ar lywodraeth Prydain i ddatblygu strategaeth i fynd i’r afael â sgandal tlodi pensiynwyr yn y Deyrnas Unedig.