rchwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas
Rhaid i gynghorau gryfhau eu dull o oruchwylio’r gwaith o ddiogelu plant, meddai’r Archwilydd Cyffredinol mewn adroddiad heddiw.

Bu’r adroddiad yn edrych ar drefniadau corfforaethol cynghorau yng Nghymru ar gyfer diogelu plant.

Yn ol yr adroddiad, er bod gan y rhan fwyaf o’r cynghorau systemau da wedi’u sefydlu ar gyfer recriwtio a hyfforddi diogel, bod rhaid i rai cynghorau gryfhau eu dulliau o weithredu er mwyn sicrhau bod eu cyfrifoldebau diogelu corfforaethol yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol a bod y monitro a’r gwerthuso’n cyd-fynd yn well â’r gwaith craffu ac archwilio mewnol.

Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer gwella, gan gynnwys:

  • creu llinellau atebolrwydd clir ar gyfer diogelu;
  • sicrhau bod gwaith holl wasanaethau’r cyngor yn cael ei gynnwys mewn polisïau corfforaethol ar ddiogelu;
  • sicrhau bod staff ac aelodau etholedig yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau diogelu
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas fod yna gyfleoedd i weithredu yn fwy effeithiol: “Er bod gan yr holl gynghorau systemau yn eu lle i ddiogelu plant a phobl ifanc, mae cyfleoedd i ymgorffori’r gwaith yma’n fwy effeithiol er mwyn rhoi sylw i bob agwedd ar waith y cynghorau.

“Fe hoffwn i annog y cynghorau i gyd i ddefnyddio fy adroddiad i a’i restr wirio o arferion da i hunanasesu ac i weld sut gallant wella eu trefniadau rheoli mewnol.”