Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau mai corff y pysgotwr oedd ar goll, Brian Hughes, y cafwyd hyd iddo ar draeth ym Mae Cinmel, Sir Conwy ddoe.

Fe aeth Brian Hughes, 66, o Gonwy ar goll ar ôl mynd i bysgota ddydd Mawrth diwethaf.

Bu hofrennydd a sawl bad achub yn chwilio amdano mewn ardal ger Llanddulas, Bae Colwyn.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod yn rhoi’r gorau i’r chwilio ar ôl darganfod rafft ger Llanddulas oedd wedi dod oddi ar gwch Brian Hughes.

Cafodd ei gorff  ei ddarganfod ar draeth ym Mae Cinmel tua 5.30yh ddydd Sul.

Mae ei gorff wedi cael ei  adnabod yn swyddogol, meddai’r heddlu.