Mae plant ar hyd a lled Cymru wedi hen arfer â gweld Cyw ar eu sgrin teledu, a nawr mae’r rhaglen wedi camu i fyd y llyfrau gyda’i chyfres gyntaf o straeon.

Cafodd Cyw ar y Fferm ei ysgrifennu gan gyflwynydd S4C a Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn, ac fe fydd llyfr cyntaf y gyfres o straeon am Cyw a’i ffrindiau ar gael i’w brynu yn y siopau o fis Gorffennaf ymlaen.

Mae’n cyd-fynd â gwasanaeth teledu Cyw ar gyfer plant meithrin sydd yn cael ei ddarlledu bob diwrnod o’r wythnos ar S4C, ac mae’r cyflwynydd yn cyfaddef ei bod hi wedi mwynhau trosi anturiaethau’r cymeriad i lyfrau.

“Roedd hi’n bleser mynd â Cyw a’i ffrindiau ar antur o amgylch y fferm ac mae’r llyfr yn siŵr o fynd â’r darllenwyr bach ar antur hefyd, un hwyliog gobeithio,” meddai Anni Llŷn.

‘Cam naturiol’

Cafodd y llyfr lliwgar a hwyliog, sydd yn dysgu geirfa am ffermio a phatrymau iaith syml i blant, ei lansio yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd heddiw.

Ac ar ôl saith mlynedd ar y sgriniau teledu roedd hi’n hen bryd i Cyw a’i ffrindiau gamu i fyd y cloriau yn ôl Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C.

“Mae plant wedi cael eu swyno gan Cyw a’i ffrindiau ar y teledu ac ar blatfformau digidol ers 2008. Felly mae hi’n gam naturiol bod Cyw yn symud i fyd llyfrau,” meddai Sioned Wyn Roberts.

“Gyda chymeriadau annwyl, delweddau atyniadol a straeon difyr, bydd y llyfrau yn siŵr o fod yn ffefrynnau arbennig i ddarllenwyr ifanc am flynyddoedd i ddod. Mae S4C yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth â Boom Plant a’r Lolfa ar y casgliad.”