Mae gostyngiad  o dros 5% wedi bod yn nifer  y bobl sy’n cytuno i roi organau i’w trawsblannu yn y DU, yn ôl ffigyrau sydd wedi eu rhyddhau heddiw.

Dyma’r gostyngiad cyntaf yn nifer y bobl sy’n cytuno i roi organau er mwy na degawd.

Mae’r adroddiad gan Gwaed a Thrawsblaniadau’r Gwasanaeth Iechyd yn dangos bod canran o bobl a oedd yn cytuno i roi organau wedi disgyn i 48.5% yn 2014 o’i gymharu â 53.6% yn 2013.

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod nifer y trawsblaniadau hefyd wedi gostwng i 4,431 yn 2014/15 o’i gymharu â 4,655 yn 2013/14.

Yng Nghymru roedd nifer y trawsblaniadau wedi disgyn i 173 yn 2014/15 o’i gymharu â 209 yn 2013-14.

Y rheswm am y gostyngiad o 5%, meddai’r adroddiad, yw bod llai o bobl yn marw mewn amgylchiadau lle y gallen nhw roi organau ac nid oes cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n cydsynio i roi eu horganau pan maen nhw’n marw.

Newid y gyfraith rhoi organau

O 1 Rhagfyr fe fydd y gyfraith rhoi organau yng Nghymru yn newid.

Mae’r newid yn anelu at gynyddu nifer yr organau sydd ar gael i’w trawsblannu. Mae’n golygu y bydd unrhyw un sy’n 18 oed a throsodd sydd wedi byw yng Nghymru ers mwy na 12 mis ac sy’n marw yng Nghymru, yn cael eu hystyried o fod wedi cydsynio i roi organau oni bai eu bod wedi optio allan. Mae hyn yn cael ei alw’n gydsyniad tybiedig;

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y system newydd – y gyntaf o’i bath yn y DU – yn ei gwneud yn haws i bobl nodi’n glir beth yw dymuniadau o ran rhoi organau, a gallai hyn arwain at gynnydd o 25% mewn rhoi organau.

Yn 2014-15, bu farw 12 o bobl yng Nghymru wrth iddyn nhw aros am drawsblaniad.

Ar hyn o bryd mae 220 o bobl ar y rhestr aros am drawsblaniad yng Nghymru. Ychydig dros draean o’r boblogaeth (34%) sydd ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r Gwasanaeth Iechyd (GIG).