Mae archfarchnadoedd wedi cael eu beirniadu’n hallt gan y sefydliad sydd yn hyrwyddo Cig Cymru.
Ar ddiwrnod agoriadol Sioe Frenhinol Cymru, mae Hybu Cig Cymru yn dweud bod archfarchnadoedd yn hyrwyddo cig oen o Seland Newydd ar draul Cig Oen Cymreig.
Meddai Dai Davies, Cadeirydd Hybu Cig Cymru, mewn derbyniad brecwast: “Mae’n ddrwg gen i ddweud nad yw rhai mân-werthwyr wedi rhannu ein gweledigaeth o gydweithredu o fewn y diwydiant. Maen nhw wedi rhoi blaenoriaeth i gig wedi’i fewnforio.”
“Rwy’n eu hannog i ailystyried eu polisïau a phenderfynu a ydyn nhw mewn gwirionedd eisiau aberthu dyfodol hirdymor y gadwyn gyflenwi yn y DU er mwyn elwa byrdymor.”
‘Amau a oes dyfodol’
Ychwanegodd: “Mae prisiau ŵyn wedi bod yn cwympo yn ystod y rhan fwyaf o’r flwyddyn, gan ddisgyn i lefelau dychrynllyd o isel.
“Mor isel, mewn gwirionedd, nes gwneud i rai ffermwyr defaid amau a oes dyfodol realistig ar eu cyfer.”
Mae ffermwyr yn derbyn rhwng £25 a £30 y pen yn llai ar gyfer eu defaid eleni nag yn ystod yr un cyfnod y llynedd.
Dywedodd Dai Davies fod llawer o resymau am y gostyngiad, ond y prif reswm oedd y cynnydd mewn mewnforion oherwydd cryfder y bunt o’i gymharu ag arian tramor.
‘Cymryd mantais’
“Nawr gadewch i mi ei gwneud yn glir nad wyf yn erbyn masnach ryngwladol. Wedi’r cyfan, mae Cig Oen Cymru yn llwyddo’n rhyfeddol yn y farchnad allforio,” meddai Dai Davies.
“Mae cig oen yn gynnyrch tymhorol ac yn draddodiadol mae Seland Newydd wedi chwarae rhan drwy gynnal cyflenwad cyson pan nad yw Cig Oen Cymru ar gael. Mae hynny’n golygu bod y galw gan ddefnyddwyr am gig oen yn cael ei gynnal drwy gydol y flwyddyn.
“Ond mae cig oen wedi’i fewnforio yn amharu’n gynyddol ar ein tymor cig oen ni. Mae cig oen o dramor yn dal ar y silffoedd ym mis Gorffennaf ac i mewn i fis Awst. A siarad yn blaen, maen nhw’n cymryd mantais, yn tanseilio cystadleuaeth ein cadwyn gyflenwi ac yn peryglu dyfodol ein diwydiant defaid.”
Bydd ymgyrch i hybu cig oen, sy’n cynnwys hysbysebion ar y teledu a marchnata digidol, yn cael ei gynnal gan Hybu Cig Cymru tan fis Tachwedd.
“Rwy’n rhoi fy ngair i chi ac i’n holl randdeiliaid fod HCC yn gwneud popeth yn ei allu i hyrwyddo Cig Oen Cymru i ddefnyddwyr,” meddai Dai Davies.