Rhodri Morgan
Mae Golwg 360 yn deall bod cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi datgan ei gefnogaeth i Yvette Cooper yn y ras i gael ei hethol yn arweinydd newydd Plaid Llafur.
Mae tîm ymgyrchu Yvette Cooper wedi bod yn cysylltu gydag aelodau Cymreig y blaid gan ddatgan cefnogaeth Rhodri Morgan.
Mewn datganiad i’r aelodau dywedodd Rhodri Morgan: “Mae Yvette Cooper yn dod drosodd fel prif weinidog. Gallwch ei gweld yn rhif 10 Stryd Downing, yn cadeirio cyfarfod o’r cabinet, yn mynychu cyfarfodydd o arweinwyr Ewropeaidd ac yn siarad gydag Arlywydd yr UDA.”
Ar hyn o bryd yn yr ornest i olynu Ed Miliband, mae’n edrych yn debyg fod yr Aelod Seneddol asgell chwith, Jeremy Corbyn yn codi ofn ar ASau yn San Steffan oherwydd ei boblogrwydd gydag aelodau ar lawr y wlad.
Mae rhai ASau Cymreig fel Albert Owen (Ynys Môn) wedi datgan ei gefnogaeth i Andy Burnham tra bod Stephen Doughty, Nick Smith a Chris Evans yn cefnogi Liz Kendall.
Fe fydd y blaid Llafur yn dewis rhwng Andy Burnham, Jeremy Corbyn, Yvette Cooper a Liz Kendall yn yr hydref.