Tara O'Reilly
Mae dwy chwaer sydd yn gobeithio helpu eu mam i deithio i glinig yn y Swistir i ladd ei hun wedi gorfod canslo digwyddiad i godi arian ar gyfer y daith ar ôl rhybudd gan yr heddlu.

Bu Tara O’Reilly a Rose Baker yn ceisio codi £8,000 er mwyn anfon eu mam 59 oed, Jackie Baker, i’r clinig ewthanasia Dignitas.

Yn ôl y chwiorydd mae cyflwr eu mam o Dreforys, sydd â chlefyd Motor Niwron, wedi gwaethygu’n sylweddol ac mae hi wedi erfyn arnyn nhw i adael iddi hi farw ag urddas.

Ond mae’r ddwy nawr wedi canslo parti codi arian ar ôl ymweliad gan swyddogion yr heddlu yn eu rhybuddio y gallan nhw gael eu herlyn.

Yn erbyn y gyfraith

Mae hi yn erbyn y gyfraith yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd i annog neu gynorthwyo rhywun i ladd eu hunain.

Ac yn ôl Tara O’Reilly roedd dau swyddog heddlu wedi dod i’r salon trin gwallt lle mae hi’n gweithio i ddweud wrthi y gallai hi a’i chwaer wynebu cael eu herlyn petai nhw’n parhau â’u hymgais i fynd â’u mam i’r Swistir.

“Rydw i wedi gorfod canslo’r noson [godi arian],” meddai Tara O’Reilly, oedd wedi gobeithio cynnal parti ‘merched yn unig’ gyda pherfformiwr drag a bwtleriaid hanner noeth.

“Dw i ddim yn gwybod beth fyddai’n ei wneud na sut fyddai’n codi’r arian.

“Mae angen i’r gyfraith newid. Mae’n greulon bod rhaid i bobl ddioddef yn y ffordd gallai fy mam orfod gwneud nawr. Dw i mor ypset – mae meddwl am fy mam yn marw heb urddas yn fy ngwneud i deimlo’n sâl.”

Newid ar droed?

Yn ôl ffigyrau mae bron i chwarter y bobl sydd yn teithio i glinigau tramor fel un Dignitas i ladd eu hunain yn dod o’r DU.

Fe allai rhywun wynebu carchar o hyd at 14 mlynedd am helpu rhywun i ladd eu hunain yn ôl deddfau Prydain, ond dim ond os oes penderfyniad yn cael ei wneud i’w herlyn nhw.

Ond mae Bil Cymorth i Farw yn mynd drwy San Steffan ar hyn o bryd gyda’r disgwyl y bydd yn cael ei drafod ym mis Medi.

Mae ymgyrchwyr o blaid y mesur yn dweud y byddai rhoi’r hawl i roi cymorth i rywun farw yn lleddfu dioddefaint llawer o bobl sydd â salwch difrifol a phoenus lle nad oes modd gwella.

Ond yn ôl eraill, gan gynnwys grwpiau crefyddol, fe fyddai newid y gyfraith bresennol yn peryglu bywydau pobl fregus.