Y Ty Clyfar ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Mae tŷ clyfar cynta’r DU, sy’n cynhyrchu mwy o ynni na mae o’n ei ddefnyddio, wedi agor ei ddrysau am y tro cyntaf.

Mae’r tŷ tair ystafell wely, a gynlluniwyd gan arbenigwyr dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, yn integreiddio technoleg i leihau’r galw am ynni ac, yn hytrach, yn cynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy.

Mae’r eiddo ger Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei adeiladu i fod yn effeithlon iawn, gydag inswleiddio arbennig ym mhob rhan o’r tŷ a system gwresogi sy’n ddibynnol ar yr haul.

Mae hefyd yn cynnwys paneli solar sy’n cynhyrchu pŵer i’r eiddo.

Defnyddiodd y tîm a gynlluniodd y tŷ – sydd hefyd yn defnyddio technoleg werdd fel sment carbon isel a goleuadau LED – ddeunyddiau lleol fel pren Cymreig.

Mae batri hefyd yn rhan o’r dyluniad fel bod pobl yn gallu storio trydan o’r paneli solar a chaniatáu i’r bobl sy’n byw yn y tŷ i ddefnyddio’r ynni nes ymlaen.

Dim ond 16 wythnos wnaeth hi gymryd i adeiladu’r tŷ, ar gost gyfatebol i dai cymdeithasol, meddai’r dylunwyr.

Dywedodd yr Athro Phil Jones, pennaeth y prosiect, fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi gosod targedau ar gyfer adeiladau sy’n defnyddio ychydig iawn o ynni erbyn 2020, a gall y tai carbon newydd hyn ddarparu hynny.