Dylan Iorwerth
Mae Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Dylan Iorwerth wedi derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth.
Yn gyn-fyfyriwr yn Aberystwyth, ymunodd â phapur newydd y Wrexham Leader ar ôl graddio mewn Hanes a Saesneg, ac fe fu’n gweithio i Adran Newyddion BBC Radio Cymru cyn mynd i Lundain yn ohebydd gwleidyddol BBC Cymru.
Cyd-sefydlodd y papur Sul Cymraeg Sulyn a’r cylchgrawn wythnosol Golwg.
Y tu hwnt i’r byd newyddiadurol, mae’n Brifardd enillodd y Goron yn 2000, y Fedal Ryddiaith yn 2005 a’r Gadair yn 2012.
Mae’n awdur ac yn gyflwynydd radio a theledu.
‘Golwg eangfrydig ar y byd’
Cafodd ei gyflwyno yn ystod y seremoni gan Bennaeth Adran y Gymraeg y Brifysgol, Dr Cathryn Charnell-White.
Yn ystod y seremoni, dywedodd Dr Charnell-White: “Mae ei gyflawniadau yn adlewyrchu dealltwriaeth ddofn ac ymrwymiad cadarn i’w gymuned – boed yn sir Gaernarfon neu yng Ngheredigion – a hynny’n unol â golwg eangfrydig ar y byd.
“Wrth gwrs, dyma uchelgais Prifysgol Aberystwyth ar gyfer bob un o’i graddedigion, oherwydd mae lleoliad y dref ar arfordir hardd Ceredigion yn golygu bod gan fyfyrwyr y Brifysgol hon, nid yn unig ymdeimlad cymunedol cryf, ond awydd hefyd i edrych allan ac i ddal sylw ar y gorwel eang hwnnw sy’n ymestyn o’u blaenau.
“Ac yntau’n Olygydd Gyfarwyddwr Golwg Cyf, mae Dylan wedi sicrhau bod Golwg yn gystadleuol ac yn berthnasol, ac yn gyhoeddiad ac iddo hygrededd: mae’r we fyd-eang a’r cyfryngau cymdeithasol yn herio’r diwydiant cyhoeddi yn barhaus ac ymateb Dylan i’r her honno fu datblygu’r gwasanaeth newyddion a diwylliannol ar-lein, Golwg360. Dyna chi Dylan Iorwerth y newyddiadurwr.”
‘Hysbyseb wych’
Ychwanegodd: “O droi at Dylan Iorwerth y llenor, rhaid nodi ei fod wedi ennill bob un o brif wobrau yr Eisteddfod Genedlaethol, sef y Goron yn 2000, y Fedal Ryddiaith yn 2005 a’r Gadair yn 2012.
“Mae Adran y Gymraeg yn arbennig o falch o gael ei anrhydeddu heddiw: mae’n hysbyseb wych ar gyfer y ddisgyblaeth – sef ysgrifennu creadigol a Chymraeg mewn cyd-destun proffesiynol – ac mae ef hefyd ymhlith ein cefnogwyr mwyaf selog.
“Diolch i leoliadau gwaith gyda Dylan yn swyddfeydd Golwg fe gafodd nifer o’n myfyrwyr gyfle i hybu eu proffil cyflogadwyedd; mae gennym fyfyriwr sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda Golwg ar ddoethuriaeth KESS ar yr economi ddigidol; ac yn fwyaf diweddar, fe gyfrannodd Dylan at gynhadledd lwyddiannus iawn a drefnwyd gan ein myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol er mwyn tynnu sylw at yr ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael i raddedigion Cymraeg a Chymraeg Proffesiynol.
“Mae Dylan Iorwerth yn gymwynaswr i’n Hadran ni, a hefyd nid gormodiaith yw dweud ei fod, ym mhob agwedd ar ei yrfa hyd yn hyn, yn gymwynaswr goleuedig i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.”