Canon dŵr
Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May wedi penderfynu peidio rhoi’r hawl i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr ddefnyddio canonau dŵr wrth fynd i’r afael â throseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus.

Daeth cadarnhad ei bod hi wedi penderfynu peidio awdurdodi’r defnydd o’r Ziegler Wasserwerfer 9000.

Fe allai’r penderfyniad arwain at ffrae ymhlith y Ceidwadwyr ar ôl i Faer Llundain, Boris Johnson roi’r hawl i heddlu Scotland Yard brynu tri chanon dŵr ail law gan heddlu’r Almaen am fwy na £200,000 y llynedd.

Cafodd cais i heddluoedd ledled Cymru a Lloegr gael defnyddio canonau tebyg ei wrthod gan Theresa May fis Mawrth y llynedd.

Dywedodd Theresa May fod ei phenderfyniad ar sail materion meddygol a thechnegol a gafodd eu crybwyll gan arbenigwyr.

Peryglon

Does dim tystiolaeth ar hyn o bryd fod y canonau dŵr yn gallu peryglu bywydau neu achosi niwed difrifol.

Ond mae rhai peryglon yn deillio o’u defnyddio, gan gynnwys torri esgyrn, cyfergyd ac anafiadau i’r llygaid.

Cyfeiriodd Theresa May hefyd at ddallu protestiwr 66 oed o Stuttgart yn yr Almaen.

Mae archwiliad gan bwyllgor ymgynghorol ar Wyddoniaeth wedi tynnu sylw at 67 o bryderon sydd ganddyn nhw am y defnydd o’r canonau.

‘Gallu achosi niwed’

Dywedodd Theresa May: “Mae’r penderfyniad ynghylch awdurdodi canonau dŵr yn un difrifol.

“Mae gan ganonau dŵr y gallu i achosi niwed, heb fod camau diogelwch yn eu lle.”

Yn dilyn cyhoeddiad Theresa May, dywedodd Boris Johnson nad yw “o reidrwydd” yn cytuno â’i phenderfyniad.