Daniel Craig
Mae llu o enwogion o’r byd adloniant wedi arwyddo llythyr agored yn galw ar Brif Weinidog Prydain, David Cameron i amddiffyn y BBC rhag toriadau arfaethedig.

Mae’r actorion Daniel Craig a’r Fonesig Judi Dench, a’r darlledwr David Attenborough ymhlith y rhai sy’n cefnogi’r ymgyrch.

Maen nhw – ynghyd ag enwau eraill megis yr awdures JK Rowling, yr actores Miranda Hart a’r cyflwynydd Chris Evans – yn galw ar David Cameron i sicrhau nad yw’r BBC yn dod yn “ddarlledwr cul”.

Ychwanega’r llythyr fod y BBC yn “rym creadigol er gwell”.

Mae disgwyl i bapur gwyrdd Llywodraeth Prydain gael ei gyhoeddi yfory sy’n galw am gwtogi rhaglenni ac adolygu ffi’r drwydded.

‘Gwrthdaro rhwng dwy weledigaeth’

Ddoe, cafodd y cynlluniau eu beirniadu gan y cyfarwyddwr cyffredinol Tony Hall wrth iddo gyhoeddi cynlluniau i godi £1 biliwn trwy raglenni poblogaidd megis Doctor Who.

Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant John Whittingdale wedi penodi panel o wyth o bobol i adnewyddu siartr y BBC.

Mae rhai o fewn y llywodraeth yn ffafrio diddymu sianel newyddion y BBC, cwtogi’r wefan a chael gwared ar raglenni adloniant megis The Voice.

Dywedodd yr Arglwydd Hall fod y ddadl ynghylch y siartr yn “wrthdaro rhwng dwy weledigaeth”.

Ychwanegodd mai llais y gynulleidfa “sydd bwysicaf yn y ddadl hon”.

Dywedodd llefarydd ar ran Stryd Downing eu bod nhw wedi derbyn y llythyr.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog, David Cameron: “Safbwynt y Prif Weinidog yw bod adolygu’r Siartr yn gyfle i gryfhau rhinweddau’r BBC ac y dylem adael i’r broses honno fynd rhagddi.”