Neuadd y Farchnad, Caergybi
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gosod Gorchymyn Pryniant Gorfodol ar Neuadd y Farchnad Caergybi.

Roedd y Cyngor yn poeni am gyflwr y neuadd, sy’n Adeilad Rhestredig Graddfa 2, ac sydd wedi’i lleoli yng nghanol tref Caergybi.

Bu’r Cyngor yn ymgynghori am fwy na phum mlynedd gyda pherchennog y neuadd am ei chyflwr, a bellach, maen nhw wedi cymryd y ‘camau olaf’ er mwyn sicrhau adfywiad i’r neuadd hanesyddol.

Pryniant gorfodol

Roedd y neuadd yn destun pryder i Gyngor Sir Ynys Môn wrth iddi ddirywio ymhellach, gan danseilio ymdrechion busnesau i fuddsoddi yn y dref.

Am hynny, roedden nhw’n benderfynol o weld gwaith adnewyddu ac adfywio yn cael ei wneud arni.

“Ond, cam a gymerir pan fo popeth arall wedi methu yw pryniant gorfodol”, esboniodd y Cynghorydd Richard Dew.

Bydd y cais yn cael ei gyflwyno yn awr i Swyddogion Llywodraeth Cymru i’w gadarnhau. Os bydd gwrthwynebiad i’r cais, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn cynnal ymchwiliad cyhoeddus ar ran Llywodraeth Cymru, ac yn rhyddhau’r canlyniad erbyn mis Ebrill 2016.

Hwb ariannol

Mae’r neuadd yn derbyn cymorth ariannol drwy Fenter Treftadaeth Treflun sy’n cael ei gefnogi gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru.

Ym mis Mawrth eleni, derbyniodd y neuadd hwb ariannol gwerth £2.375m oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

“Mae Neuadd y Farchnad yn rhan eithriadol bwysig o dreftadaeth ddiwylliannol a phensaernïol y dref”, esboniodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Mae’r Cyngor eisoes wedi sicrhau gwaith adfywio ar adeiladau tebyg yn nhref Caergybi, gan gynnwys Kwik Save ac Ethel Austin.

Ail-leoli’r Llyfrgell

Mae’r cynlluniau ar gyfer Neuadd y Farchnad yn cynnwys gwneud gwaith adnewyddu sylweddol er mwyn darparu mynediad cyhoeddus unwaith eto i’r adeilad.

Mae bwriad hefyd i ail-leoli Llyfrgell y dref yn yr adeilad, gan gynnig gwasanaethau i’r cyhoedd ynddi ynghyd ag arddangosfa ar hanes lleol.