Pont Briwet
Fe fydd Pont Briwet ym Meirionnydd yn agor yn swyddogol i gerbydau heddiw yn dilyn cynllun gwerth £20 miliwn i’w hadnewyddu.

Bydd y bont newydd hir ddisgwyliedig, sy’n croesi’r Traeth Bach rhwng Penrhyndeudraeth a Llandecwyn, yn cael ei hagor yn swyddogol gan blant Ysgol Talsarnau ac Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth am 2 heddiw, gyda chyfle i bobl gerdded ar hyd y bont rhwng 1pm a 2pm cyn iddi agor i gerbydau.

Bydd y system confoi ar yr A496 ger Llandecwyn, a gyflwynwyd i sicrhau diogelwch defnyddwyr y lon, yn cael ei ddiddymu pan fydd y bont yn agor.

Mae adeiladu’r bont a’r lôn doll breifat, sy’n 150 mlwydd oed, wedi wynebu nifer o broblemau technegol ers i’r gwaith adeiladu ddechrau yn 2013. O ganlyniad i’r problemau yma, fe ohiriwyd dyddiad agor y bont am chwe mis, gan achosi ymateb chwyrn gan bobl Harlech a’r cyffiniau.

Fe ail-agorwyd y bont rheilffordd ym mis Medi 2014, a gobaith yr adeiladwyr oedd y byddai lon y bont wedi’i chwblhau erbyn Mehefin 2015.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer trafnidiaeth, “Mae’r aflonyddwch a achoswyd i’r cymunedau lleol yn ystod y cyfnod adeiladu yn dilyn cau’r bont, wedi rhoi pwyslais ar ba mor angenrheidiol yw’r ffordd hon.

“Mae’n newyddion gwych i bawb ein bod yn mynd i fedru cymryd mantais lawn o’r cyfleuster newydd cyffrous yma, sy’n addas ar gyfer ein trafnidiaeth ni heddiw yn ogystal â’r dyfodol.”