Fe fu bron i un o ohebwyr criced y BBC ymddangos yn y gyfres ddrama ‘35 Diwrnod’ ar ail ddiwrnod prawf criced y Lludw yng Nghaerdydd ddoe.

Roedd golygfa allan o’r gyfres yn cael ei ffilmio ym Mharc Bute wrth i Sam Sheringham gerdded trwy’r parc ar ei ffordd i’r Swalec SSE.

Ond doedd y gohebydd ddim wedi sylweddoli ei gamgymeriad tan iddo gyfarfod â dynes â chi y tu ôl i goeden yn y parc – roedd hi’n ‘ecstra’ yn y gyfres!

Ar ei dudalen Twitter, dywedodd Sam Sheringham: “Wrth ymlwybro i’r cae y bore ma, ces i fy nenu gan sefyllfa hyfryd yn y parc.

“Gan gymryd eu bod nhw’n mwynhau brecwast awyr agored cyn mynd i’r criced, es i atyn nhw a chael fy stopio gan ddynes â chi y tu ôl i goeden.”

Bryd hynny y sylweddolodd nad oedd yr olygfa mor hyfryd, wedi’r cyfan.

“Ydych chi yn yr olygfa hon hefyd?” gofynnodd i mi, er mawr syndod i fi.”

Os nad oedd y sgwrs fer honno’n ddigon i’r gohebydd sylweddoli fod rhywbeth mawr o’i le, fe glywodd cynhyrchydd yn gweiddi “Action” yn y pellter cyn i’r ddynes gerdded i ffwrdd.

Yn dilyn y digwyddiad, cafodd llun o’r olygfa ei drydar gan Sam Sheringham.

Mae’n debyg y bydd rhaid i’r gohebydd fodloni ar yr olygfa ar gae’r Swalec SSE am y deuddydd nesaf.

Mae’r gyfres ddrama’n canolbwyntio ar fywyd yn y brifddinas ac ar gymeriad Jan, ar ôl i’w chorff gael ei ddarganfod ar ystad Crug yr Awel.

Yn ystod y gyfres, cawn wybod pam y bu i Jan symud i’r ystad am gyfnod o 35 diwrnod cyn iddi farw.