Ni fydd James Bond yn y Bae
Mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i S4C ffilmio drama wleidyddol newydd yn y Senedd ym Mae Caerdydd yr wythnos nesaf ymlaen.

Yn ddiweddar fe fethodd cynhyrchwyr James Bond â chael caniatâd i ffilmio yn y Senedd yn ddiweddar.

Caiff y ddrama Gymraeg Byw Celwydd ei ffilmio mewn nifer o leoliadau o fewn yr adeilad.

Bydd y ddrama ffuglen yn portreadu Llywodraeth Cymru o dan lyw arweinwyr na fu mewn grym o’r blaen. Caiff y Llywodraeth ei rheoli gan glymblaid enfys rhwng y Democratiaid a’r Cenedlaetholwyr, a’r Sosialwyr fydd yr wrthblaid.

Bydd y gyfres yn cael ei darlledu yn ystod mis Ionawr 2016, yn y slot naw o’r gloch ar nos Sul.