Omar Sharif
Mae’r actor Omar Sharif, sydd fwyaf enwog am ei rannau yn ffilmiau Dr Zhivago a Lawrence of Arabia, wedi marw yn 83 oed.

Yn gynharach eleni cadarnhaodd ei asiant, Steve Kenis, bod Sharif yn dioddef o Alzheimer’s.

Dywedodd Mr Kenis ei fod wedi dioddef trawiad ar y galon mewn ysbyty yng Nghairo.

Gwobrau lu

Enillodd Omar Sharif wobrau Golden Globe yn 1962 ac enwebiad am Oscar am chwarae ‘Sherif Ali’ yn y ffilm Lawrence of Arabia. Tair blynedd yn ddiweddarach enillodd Golden Globe arall am ei ran yn Dr Zhivago.