Fe allai’r Blaid Lafur gael ei hysgubo o’r neilltu yng Nghymru fel sydd wedi digwydd yn yr Alban yn sgîl llwyddiant yr SNP.
Dyna’r neges gan Mhairi Black, Aelod Seneddol ieuengaf Tŷ’r Cyffredin, mewn cyfweliad â chylchgrawn Golwg yr wythnos hon.
Fe gipiodd y ferch 20 oed un o gadarnleodd Plaid Lafur yr Alban i’r SNP yn yr Etholiad Cyffredinol.
Ei gwrthwynebydd yn etholaeth Paisley a De Renfrewshire oedd un o hoelion wyth Llafur yr Alban, Douglas Alexander, a oedd yn amddiffyn mwyafrif o 16,000.
Yn ogystal â bod yn lefarydd Materion Tramor Llafur yn San Steffan ar y pryd, roedd ganddo doreth o brofiad mewn etholiadau – cymaint fel ei fod yn gydlynydd ymgyrch etholiadol ei blaid.
Gyda tsunami gwleidyddol yr SNP yn ysgubo Llafur o’r neilltu, enillodd y cenedlaetholwyr 56 o 59 sedd yr Alban. Aros yn ei hunfan wnaeth Plaid Cymru a dal gafael ar dair sedd.
Er hynny mae Mhairi Black yn credu bod tro ar fyd yn bosib yng ngwleidyddiaeth Cymru.
“Mae’r ffaith bod arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, mor adnabyddus nawr, a bod y pleidiau bach wedi eu cynnwys yn y dadleuon teledu, yn dangos bod pethau’n dechrau newid,” meddai wrth Golwg.
“Rwy’n credu y gall beth ddigwyddodd yn yr Alban ledaenu ar draws y Deyrnas Unedig. Mae Cymru i weld fel ei bod hi’n symud i’r un cyfeiriad a Plaid fydd yn annog hynny.”
Angen gwrando ar y bobol
Er mwyn llwyddo rhaid i Blaid Cymru “addysgu pobol am wleidyddiaeth a pham bod pethau fel y maen nhw a sut mae newid hynny,” meddai Mhairi Black.
“Mae ynghylch cael pobol yn effro i’r posibiliadau a dyna sydd wedi gyrru’r hyn sydd wedi gwneud yr SNP mor llwyddiannus.”
Yn ogystal â chael annibyniaeth yn nod hirdymor, fe ddylai’r Blaid fod yn talu sylw i bryderon ar y stepen drws.
“Beth sy’n gwneud plaid lwyddiannus yw cymysgedd o gredu’n gryf mewn rhywbeth ond eto gwrando ar y bobol,” meddai Mhairi Black.
“Pan mae hi’n dod i rywbeth mor fawr â newid cyfansoddiadol, yndi mae hynny’n iawn fel cael prif nod, ond mae’n rhaid gwrando ar deimladau pobol.”
Cyfweliad llawn yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg.