Mae’r cwmni sy’n hybu llenydda ar ran Llywodraeth Cymru dan y lach am hysbysebu swydd yng Ngwynedd gyda’r amod: ‘Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol…’
Yn ôl awdur ac ymgyrchydd iaith amlwg fe ddylai Llenyddiaeth Cymru fod wedi mynnu bod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer swydd y Cydlynydd Arlwyo a Lletygarwch yng Nghanolfan Tŷ Newydd yn Llanystumdwy.
Ymysg dyletswyddau’r Cydlynydd newydd – ar gyflog rhwng £17,000 a £20,000 – mae ‘croesawu ymwelwyr i Dŷ Newydd, cynrychioli’r ganolfan a Llenyddiaeth Cymru’ a ‘[ch]ysgu dros nos yn Nhŷ Newydd yn achlysurol yn ystod cyrsiau ysgolion’.
I Dŷ Newydd mae darpar awduron a phobol ifanc yn mynd i ddysgu sut i sgwennu yn greadigol dan arweiniad awduron, beirdd a dramodwyr profiadol.
Ar hyn o bryd mae saith yn gweithio yn y ganolfan yn Llanystumdwy, pob un ohonyn nhw yn medru siarad Cymraeg.
Ac mae Pennaeth Dros Dro Tŷ Newydd yn ffyddiog na fydd siaradwyr Cymraeg yn cael cam yno yn dilyn penodiad y Cydlynydd newydd.
“Gyda saith aelod o staff sy’n siarad Cymraeg, ac un ychwanegol nad ydym yn gwybod ei (h)iaith eto, gallwn sicrhau y bydd pob aelod o’r cyhoedd, yn cynnwys disgyblion ysgol, sy’n dymuno siarad Cymraeg â’r staff yn gallu gwneud hynny,” meddai Leusa Llewelyn.
Ychwanegodd: “Edrychwn ymlaen i groesawu aelod newydd o staff i’r tŷ, boed yn Gymro Cymraeg, yn Gymro di-Gymraeg, neu yn aelod o’r gymuned ryngwladol eang sy’n byw yn yr ardal.”
‘Hanfodol’ bod y Cydlynydd yn siarad Cymraeg
Mae Geraint Jones o Drefor yn bendant bod angen Cydlynydd sy’n medru’r Gymraeg i ymwneud â’r cyhoedd a phobol ifanc, ac yn gweld bai ar Lenyddiaeth Cymru am beidio â chael cymal ‘Cymraeg yn hanfodol’ wrth hysbysebu’r swydd.
“Mae peth fel yna yn warthus,” meddai’r awdur a’r ymgyrchydd iaith.
“Llenyddiaeth Cymru ydy o i fod, dyna’r teitl swyddogol. A’r rhan bwysicaf o lenyddiaeth Cymru ydy llenyddiaeth Gymraeg.
“Ac os ydy llenorion Cymraeg yn mynd i gael eu cyfarch yn Saesneg wrth fynd i fewn i Tŷ Newydd…chawn nhw ddim cefnogaeth gan lenorion. ”
Mae Geraint Jones yn rheolwr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nghlynnog Fawr ger Caernarfon, ac yn bwriadu trafod ei bryderon gyda’r pwyllgor sy’n rhedeg y lle.
“Rydan ni wedi bod yn hysbysebu rhai digwyddiadau [Canolfan Tŷ Newydd] ar ein cyfryngau ni yng Nghlynnog,” meddai.
“Mi fydda i’n codi’r mater yma yn y pwyllgor rŵan i weld a ydan ni am barhau i wneud hynny.”