Safle Wylfa Newydd, Ynys Mon
Fe fydd tri chwarter y bobl sydd yn gweithio ar adeiladu atomfa Wylfa Newydd ddim yn bobl leol, yn ôl y cwmni sydd yn gyfrifol am y gwaith.
Dywedodd llefarydd ar ran Horizon nad oedd digon o sgiliau arbenigol gan y gweithlu yng ngogledd Cymru i gyflogi mwy o bobl yr ardal ar y gwaith adeiladu.
Mae hynny’n golygu mai dim ond un o bob pedwar o’r rheiny fydd yn gweithio ar adeiladu’r atomfa ym Môn fydd yn dod o Ogledd Cymru.
Mae arweinydd Cyngor Môn wedi dweud fodd bynnag ei fod yn awyddus i “bwyso am fwy” o swyddi i bobl yr ardal.
Llety i 4,100
Cyhoeddodd Horizon heddiw y byddai llety dros dro yn cael ei adeiladu ar gyfer tua 4,000 o bobl yn ardaloedd Amlwch, Cemaes a Chaergybi ar gyfer y gweithwyr hynny fyddai’n dod o du hwnt i Ogledd Cymru.
Y disgwyl yw y bydd y cwmni’n cyflogi 6,000 o bobl yn ystod y gwaith adeiladu, gyda thua 2,000 ohonyn nhw yn dod o’r ardal leol.
“Rydan ni’n edrych am roi cyfleoedd gwaith i gymaint o bobl leol ac sy’n bosib,” meddai Richard Foxhall o gwmni Horizon.
“Un o’r pethau mwyaf ydi gwneud yn siŵr fod y cyfleoedd fydd yna ar gael i bobl leol – gan gydnabod y bydd ‘na nifer o elfennau o’r gwaith o adeiladu atomfa newydd hefo sgiliau sydd ddim yn bodoli’n lleol.”
Ychwanegodd arweinydd Cyngor Môn Ieuan Williams mai nifer gymharol fychan o bobl Gogledd Cymru oedd â’r “sgiliau a’r cymwysterau cywir i wneud y gwaith” ond ei fod yn gobeithio y byddai’r cyfle yn dod i geisio cynyddu nifer y gweithwyr lleol.
Pryder am yr iaith
Mae ymgyrchwyr dros y Gymraeg gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith wedi codi pryderon yn ddiweddar, fodd bynnag, ynglŷn ag effeithiau posib adeiladu atomfa Wylfa Newydd.
Yn ôl y mudiad fe allai cael niferoedd sylweddol o bobl o du hwnt i Gymru yn symud i’r ardal ar gyfer gwaith adeiladu’r atomfa gael effaith negyddol ar yr iaith.
Mae cynlluniau eisoes ar y gweill i godi hyd at 8,000 o dai yn ardal Gwynedd a Môn, llawer o’r rheiny er mwyn darparu ar gyfer pobl fydd yn gweithio yn Wylfa.
Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynnu bod hynny’n dystiolaeth nad ateb galw lleol fydd y tai newydd, ac y byddai hynny’n arwain at wanhau’r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny.
“Twyll yw ceisio honni felly y gallai prosiect Wylfa B fod o unrhyw fudd i ddyfodol y Gymraeg yng nghymunedau Môn a Gwynedd,” meddai Dylan Morgan, aelod o’r mudiad sydd hefyd yn ymgyrchydd gwrth-niwclear.