Chris Coleman
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi dweud bod y chwaraewyr, staff a’r cefnogwyr i gyd yn haeddu clod wrth i’r tîm godi i’r 10fed safle yn y byd ar restr detholion FIFA.
Ar ôl eu buddugoliaeth hanesyddol o 1-0 yn y gêm ragbrofol Ewro 2016 yn erbyn Gwlad Belg ym mis Mehefin, mae Cymru bellach wedi codi i’w safle uchaf erioed yn y detholion.
A chyda’r tîm hefyd mewn safle gwych yn eu hymgyrch ragbrofol wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Pencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, mae Coleman yn awyddus i rannu’r clod.
“Mae hwn yn adlewyrchiad o ddwy flynedd o waith caled gan bawb – nid jyst fi, y staff a’r chwaraewyr [ond] pawb yn y Gymdeithas Bêl-droed, a phobl Cymru sydd wedi bod y tu ôl i ni,” meddai rheolwr y tîm.
“Mae e’n llwyddiant gwych, ond i ni llwyddiant go iawn fyddai cyrraedd Ffrainc. Rydyn ni mewn safle da, digon o hyder a digon o ffydd ynom ni, ac mae’n rhaid i ni jyst gadw hynny fynd.”
Uwch na Sbaen a’r Eidal
Yr Ariannin sydd wedi symud i frig y detholion, o flaen yr Almaen, sydd yn ail, a Gwlad Belg sydd yn drydydd.
Mae Cymru fymryn y tu ôl i Loegr, sydd yn nawfed, ond o flaen nifer o gewri pêl-droed eraill gan gynnwys Sbaen, Ffrainc, Yr Eidal, Chile ac Uruguay.
O ran y timau eraill sydd yng ngrŵp rhagbrofol Ewro 2016 Cymru, mae Bosnia yn 26ain, Israel yn 51fed, Cyprus yn 85fed ac Andorra yn 202ain.
O wledydd eraill ynysoedd Prydain mae’r Alban yn 29ain, Gogledd Iwerddon yn 37ain, a Gweriniaeth Iwerddon yn 52fed.
Ac mae’r detholiadau diweddaraf yn cwblhau siwrne anhygoel i dîm pêl-droed Cymru, oedd yn 117eg yn y byd llai na phedair blynedd yn ôl.
Pot Un
Mae’r detholiadau diweddaraf hefyd yn cael eu defnyddio i ddewis grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd mewn ychydig wythnosau, ble bydd Cymru ymysg y prif ddetholion.
“Rydan ni o bosib am fod ym Mhot Un ar gyfer Cwpan y Byd [2018] sydd yn grêt,” meddai Chris Coleman.
“Pan ddechreuais i’r swydd yn ystod yr ymgyrch Cwpan y Byd [2014] ni oedd y chweched detholion mewn grŵp o chwech, felly os ydyn ni’n Pot Un tro yma, ni fydd y detholion uchaf. Mae hynny’n dangos pa mor bell rydyn ni wedi mynd mewn cyfnod mor fyr o amser.
“Mae pawb eisiau ychydig o [dîm] Cymru ar y funud, rydyn ni wedi denu lot o ffrindiau yn ddiweddar, a dyna yw pêl-droed.
“Ond rydyn ni wedi bod yn gweddïo am y math yna o ‘ymyrraeth’, y math yna o bwysau, mae pawb yn mynd yn gyffrous a gallwn ni ddim ceisio tawelu hynny, mae’n rhaid i ni wireddu’r disgwyliadau yna.
“Rydyn ni eisiau i bobl edrych arnom ni o ddifrif fel tîm rhyngwladol. Yn sicr mae pobl yn edrych arnom ni sydd yn gwybod ein bod ni’n dîm da, anodd ein curo, dim ond wedi ildio dwy gôl yn yr holl ymgyrch, dim ond wedi colli unwaith mewn dwy flynedd.
“Felly rydan ni wedi haeddu’n lle yna [yn y deg uchaf] rŵan. Mae aros yn y deg uchaf yn stori wahanol, ond dw i’n meddwl y gwnawn ni ddelio â’r pwysau, dw i’n hoff ohono, ac mi alla’i ddelio efo hynny.”