Mae FIFA wedi diarddel cyn-aelod o’u pwyllgor gweithredol o bêl-droed am weddill ei oes oherwydd gweithredoedd llwgr.

Dywedodd pwyllgor moesau FIFA fod Chuck Blazer wedi bod yn ffigwr amlwg mewn sawl achos o dderbyn a gwneud taliadau anghyfreithlon gan gynnwys llwgrwobrwyo yn ogystal â ffyrdd twyllodrus eraill o wneud arian.

Daw hyn ar ôl i’r Americanwr gyfaddef cyhuddiadau o lygredd cyn cydweithio â Gweinyddiaeth Gyfiawnder yr UDA i ddatgelu rhagor o achosion tebyg o fewn FIFA.

Ymchwiliadau

Mae’r corff sydd yn rheoli pêl-droed yn rhyngwladol wedi bod yn rhan o ymchwiliad manwl dros yr wythnosau diwethaf ar ôl i awdurdodau’r UDA a’r Swistir arestio rhai o’i huwch-swyddogion.

Mae llywydd FIFA Sepp Blatter eisoes wedi dweud ei fod yn bwriadu camu o’i swydd ar ddiwedd y flwyddyn, ac mae ymchwiliadau yn parhau i gyhuddiadau o lygredd yn erbyn sawl aelod amlwg o’r corff.

Roedd Chuck Blazer yn aelod o banel gweithredol FIFA am 16 mlynedd nes 2013, ac roedd yn un o’r ffigyrau mwyaf pwerus yn rhanbarth CONCACAF Gogledd a Chanolbarth America gyda’i chyn-lywydd Jack Warner.

Roedd FIFA eisoes wedi dechrau ymchwiliad i weithredoedd Chuck Blazer yn 2012 ond fe gafodd yr achos hwnnw ei ohirio yn 2013 oherwydd iechyd gwael Blazer, sydd nawr yn 70 oed.