Rebecca Evans
Fe fydd holl ffermwyr Cymru’n derbyn yr un swm o arian grant â’i gilydd ar gyfer eu tir, wrth i Lywodraeth Cymru roi cynnig arall ar drefnu’r brif system gymorthdaliadau.

Ar ôl ildio i her gyfreithiol tros eu cynigion gwreiddiol, fe fu’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, yn ymgynghori gyda’r diwydiant ac mae newydd gyhoeddi’r drefn newydd.

Fe fydd honno’n golygu rhoi un taliad cyffredinol am bob hectar i holl fermwyr Cymru erbyn 2019 – o dan Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS).

Mae hynny’n groes i’r argymhellion cynharach a oedd yn rhoi llai o arian yr hectar i ffermwyr ar dir uchel.

‘Teg’ meddai’r Llywodraeth

Am y pum mlynedd cynta’, fe fydd yna daliad ychwanegol i helpu tros y cyfnod trosglwyddo o’r hen system i’r newydd ac i helpu rhai a fydd yn colli arian.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fydd 78% o ffermwyr yn elwa o’r ddau daliad ac, yn ôl Rebecca Evans, mae’n gynllun teg.

“Mae’n trin pob ffermwr yr un fath, mae’n cwrdd â’r rhan fwya’ o amcanion ein polisi gan gynnwys cynnig cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid; ac mae’n rhoi sylfaen glir i ffermwyr allu paratoi’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol,” meddai.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r cynllun i’r Comisiwn Ewropeaidd yn awr i’w gymeradwyo cyn rhoi’r model newydd ar waith mor fuan â phosib.

Y manylion

Fe fydd yr un taliad cyffredinol yn dod yn lle’r drefn hanesyddol sydd wedi bod hyd yma.

Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, mae’r taliad cyffredinol parhaol yn debyg o fod yn 124 Ewro yr hectar.

Fe fydd y taliad ychwanegol yn mynd ar gyfer 54 hectar cynta’ tir pob fferm ac mae’n debyg o fod yn 243 Ewro yr hectar.

Ymateb yr Undebau

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu penderfyniad y Llywodraeth.

“Mae’r rhan fwyaf o’n haelodau wedi dangos eu cefn0ogaeth i weithredu’r opsiwn hwn ynghyd â’r cynllun taliad uwch ac, am hynny, rwy’n croesawu cynllun Llywodraeth Cymru”, meddai Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

“Er hynny, dim ond mân gyffwrdd â cholledion rhai ffermwyr y bydd y cynllun ychwanegol.

“Mae’n rhaid inni felly sicrhau bod y Rhaglen Datblygu Gwledig yn canolbwyntio ar helpu’r rheiny fydd yn colli mwya’ o dan y system newydd yng Nghymru,” meddai Glyn Roberts.

Gyda’r diwydiant amaethyddol yn wan a phrisiau’r farchnad yn isel ar hyn o bryd, roedd Llywydd NFU Cymru, Stephen James, yn pwysleisio’r angen am daliad ar amser i ffermwyr Cymru ym mis Rhagfyr 2015.