Syed Choudhury
Mae dyn 19 oed wedi cael ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis am gynllwynio i deithio i Syria i ymladd dros y grŵp eithafol IS.

Roedd Syed Choudhury wedi pledio’n euog yn yr Old Bailey fis diwethaf i gyhuddiad o baratoi gweithredoedd brawychol.

Clywodd y llys ei fod wedi ymchwilio ar y we ynglŷn â sut i deithio i Syria a’r unig reswm pam nad oedd wedi gadael oedd oherwydd ei fod wedi methu dod o hyd i rywun yr oedd yn ymddiried ynddyn nhw i deithio gydag ef.

Roedd Syed Choudhury o Bradford wedi cael ei radicaleiddio ar ôl iddo symud i Gaerdydd i astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, clywodd y llys.

Roedd Choudhury yn byw mewn fflat yn Stryd Allerton yng Nghaerdydd pan gafodd ei arestio ym mis Rhagfyr, 2014.

Ar ôl cael ei arestio, dywedodd wrth swyddogion yr heddlu ei fod yn cefnogi IS, nad oedd ots ganddo am y DU a’i fod eisiau dod a chyfraith Sharia i’r DU.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr Peter Rook QC bod ei ddaliadau eithafol yn profi ei fod yn beryglus ac yn peri risg i’r cyhoedd, ond ei fod hefyd yn derbyn bod Choudhury yn “anaeddfed” ac wedi’i ddylanwadu’n hawdd.

Fe fydd Choudhury yn treulio cyfnod mewn canolfan i droseddwyr ifanc cyn cael ei ryddhau ar drwydded, meddai’r barnwr.