Ymfudwyr yn ceisio dringo ar lori yn Calais yn ystod y streic fis diwethaf
Mae ymfudwr wedi marw wrth geisio croesi’r Sianel ar drên nwyddau i gyrraedd Prydain, meddai cwmni Eurotunnel, sydd wedi galw unwaith eto am ddod a diwedd i’r argyfwng yn Calais.

Bu farw’r dyn yn y  digwyddiad yn Ffrainc tua 6.30yb (amser lleol), meddai llefarydd.

Roedd ’na oedi i draffig a gwasanaethau i gwsmeriaid yn dilyn y digwyddiad ger Calais.

Dywedodd y llefarydd bod mesurau diogelwch wedi canfod bod person yn y twnnel ac fe ddaeth y trên i stop er mwyn caniatáu i’r heddlu gynnal ymchwiliad. Yn ystod y chwilio fe ddaethon nhw o hyd i gorff ymfudwr a fu farw’n fuan wedyn.

Mae’r safle wedi’i chau tan 11.30 (amser lleol).

Ychwanegodd y llefarydd bod Eurotunnel yn “gresynu’r ffaith bod y ddamwain drasig yma wedi digwydd.

“Mae Eurotunnel yn galw unwaith eto ar lywodraethau i ddod a diwedd i’r argyfwng ymfudwyr.”

Nid oes unrhyw fanylion wedi cael eu rhyddhau am yr ymfudwr sydd wedi marw.

Dyma’r ail berson i farw o fewn yr wythnosau diwethaf ar ôl i ymfudwr o Eritrea gael ei ladd wrth geisio mynd ar drên yn Coquelles fis diwethaf.

Mae’r argyfwng yn Calais wedi gwaethygu yn ystod y misoedd diwethaf, gyda thua 3,000 o bobl o wledydd fel Eritrea, Syria ac Afghanistan yn gwersylla ger y porthladd.

Wythnos diwethaf bu’n rhaid i fwy na 3,000 o yrwyr loriau giwio am rai dyddiau ar yr M20 yng Nghaint yn dilyn streic ddirybudd gan weithwyr fferi yn Ffrainc.

Roedd ymfudwyr wedi ychwanegu at y problemau drwy geisio cuddio ar loriau oedd yn ciwio i fynd ar longau fferi i’r DU