Mae’r Gwasanaeth Tân wedi cael eu galw i dân mewn adeilad ar stad ddiwydiannol ym Mlaenafon, Torfaen.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 3:56 y bore ma yn dilyn adroddiadau bod tân mewn uned brosesu bwyd ar Stad Ddiwydiannol Gilchrist Thomas.

Mae diffoddwyr tân yn parhau i weithio ar y safle ond mae’n debyg bod perygl iddyn nhw gan fod rhannau o’r adeilad yn dymchwel.