Cafodd tri o bobl eu cludo i’r ysbyty a nifer o rai eraill eu hachub ar ôl mynd i drafferthion wrth nofio ger arfordir y gogledd brynhawn ddoe.
Cafodd hofrennydd o Gaernarfon ei anfon i ddelio gyda dau ddigwyddiad ar wahân ar draethau Harlech a Thywyn yng Ngwynedd.
Roedd Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi wedi cael eu galw tua 3.50 brynhawn dydd Sadwrn ar ôl adroddiadau bod dyn a dynes wedi cael eu llusgo allan i’r môr ar draeth Harlech.
Cafodd y dyn, oedd yn ei arddegau, ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd a chafodd merch 17 oed ei chludo i’r ysbyty mewn ambiwlans.
Mewn digwyddiad arall ar draeth Tywyn am 3.55yp, roedd grŵp o nofwyr wedi mynd i drafferthion ac fe gawson nhw eu hachub gan syrffwyr.
Roedd bad achub o Aberdyfi wedi achub un o’r nofwyr a chafodd y dyn ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
Credir bod y nofwyr wedi cael eu dal mewn crychdonnau ac mae Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi wedi rhybuddio pobl am y peryglon ac yn annog rhieni “i gadw llygad ar eu plant drwy’r amser.”