Manon Steffan Ross
Fe fydd awdur Cymraeg poblogaidd yn creu hanes wrth lansio pum nofel mewn deuddydd.
Fe gychwynnodd Manon Steffan Ross ei chyfres o lansiadau neithiwr, gyda noson yn Siop Penrallt Machynlleth i lansio The Seasoning, sef addasiad o’r nofel Blasu.
Heddiw yng nghynhadledd y corff arholi CBAC yn Aberystwyth fe fydd hi’n lansio dwy nofel newydd i blant, Annwyl Mr Rowlands a Diffodd y Golau, a’r cyfieithiadau o’r llyfrau hefyd.
“Mae’r nofelau newydd i blant 9-11 oed ac yn trafod rheoli arian,” meddai’r awdur sy’n wreiddiol o Riwlas ger Bangor.
“Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn gwneud Mathemateg yn yr ysgol, ac mi wnes i benderfynu yn fuan nad oedd o’n mynd i fod o unrhyw ddefnydd i fi mewn bywyd go-iawn.
“Ond fel oedolyn, dw i’n gweld fy mod i angen Maths. Dw i felly wedi trio creu straeon sy’n cynnwys Mathemateg ond sydd ddim yn teimlo rhy addysgol.”
Dywedodd Manon Steffan Ross bod y nifer o nofelau mae hi’n eu sgwennu yn dibynnu ar yr amser rhydd sydd wrth iddi hefyd fagu dau fab. “Dw i wedi sgwennu lot yn y pum mlynedd diwethaf gan fod fy meibion wedi dechrau yn yr ysgol yn llawn amser. Ond digwydd bod, mae pob dim yn cael ei lansio ar yr un pryd y tro hwn.”