Fiolinydd ifanc o Rhuthun (Wills16 CCA 3.0)
Fe allai pobol sy’n prynu tocynnau i gyngherddau a digwyddiadau eraill wynebu cais am gyfraniad ychwanegol i helpu cerddorion ifanc.

Mae’r Gweinidog Addysg wedi gofyn i Gyngor Celfyddydau Cymru ymchwilio i’r syniad o gael lefi gwirfoddol ar docynnau i weithgareddau celfyddydol er mwyn creu cronfa i gefnogi gwasanaethau cerddoriaeth yn ysgolion Cymru.

Mae syniadau eraill mewn adroddiad gan weithgor arbennig yn cynnwys mwy o gydweithio rhwng awdurdodau lleol a chreu trefn genedlaethol er mwyn prynu offerynnau’n rhatach.

Y cefndir

Fe gafodd y gweithgor ei sefydlu gan y Gweinidog Huw Lewis yn wyneb pryder cynyddol fod gwasanaethau cerddorol – er mwyn dysgu offerynnau i blant – yn cael eu torri’n ôl.

Roedd yna sawl galwad o lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni, er enghraifft, yn dweud bod angen sicrhau dyfodol y gwasanaethau sy’n cael y clod am godi safonau’n sylweddol tros y blynyddoedd diwetha’.

“Mae cerddoriaeth yn rym canolog yn y cwricwlwm, yn bywiocáu a chyfoethogi, ac rwy’n credu fod pob plentyn, beth bynnag fo’u cefndir, yn haeddu’r cyfle i cael profiad o gerddoriaeth yn eu bywydau,” meddai Huw Lewis.