Dr Dylan E Jones
Mae prifathro Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Dr Dylan E Jones wedi’i benodi’n Ddeon Addysg a Chymunedau gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Bydd ei rôl newydd hefyd yn cynnwys arwain y gwaith o sefydlu Athrofa Cymru ar gyfer Addysg ac Arweinyddiaeth Ysgol.

Mae Dr Dylan E Jones, yn ogystal â bod yn brifathro, hefyd yn gadeirydd ar y Panel Ymarferwyr Ysgolion gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i gynghori’r Gweinidog Addysg ac i gefnogi datblygiad polisi addysg yng Nghymru.

Mae e hefyd yn aelod o Fwrdd Cysgodol Cymwysterau Cymru.

‘Profiad helaeth’

Mae’r Brifysgol hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n sefydlu Comisiwn Addysg Cymru, fydd yn cael ei arwain gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Medwin Hughes.

Wrth gyhoeddi penodiad Dr Dylan E Jones, dywedodd yr Athro Medwin Hughes: “Rwyf wrth fy modd fod Dr Dylan Jones wedi derbyn swydd Deon a Phennaeth Athrofa Cymru ar gyfer Addysg ac Arweinyddiaeth Ysgol.

“Mae ganddo brofiad helaeth i’w gynnig i’r rôl a bydd yn gallu gweithio gyda’r proffesiwn addysgu ledled Cymru i greu cynghrair arweiniol o ymarferwyr a all weithredu newid systemig.

“Mae hi’n bryd bellach sefydlu modelau arloesol newydd ar gyfer addysg athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus.  Bydd ei ddirnadaeth o reoli newid strategol o fewn addysg yn allweddol wrth fynd ati i ddiwygio addysg ymhellach.

“Mae’r Brifysgol yn parhau i chwarae rhan sylweddol yn natblygiad polisi a diwygio addysg yng Nghymru.

“Mae’r cyhoeddiadau hyn yn rhan o’n Hadduned Addysg sy’n amlinellu’r agenda gyffrous ar gyfer newid y mae’r Brifysgol yn ei gyrru yn ei blaen i gefnogi mentrau polisi a gyflwynwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru”.

‘Cyfle allweddol’

Ychwanegodd Dr Dylan E Jones: “Wedi 17 mlynedd fel Pennaeth Ysgol, mae’n anrhydedd i dderbyn y cyfle arbennig yma i fod yn rhan o ddatblygiadau cyffrous y Brifysgol.

“Dyma gyfle allweddol i wneud cyfraniad pwysig at ddyfodol addysg yng Nghymru.”