Ysbyty Maelor Wrecsam
Mae cerddwr wedi cael ei gludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad gyda bws y tu allan i Ysbyty Maelor yn Wrecsam heddiw.
Cafodd y gwasanaethau ambiwlans alwad ynglŷn â’r digwyddiad am 8:36 y bore ‘ma.
Fe aed a’r dyn i’r Adran Frys ac fe gafodd Ffordd Croesnewydd ei chau am tuag awr.
Mae’n debyg nad yw anafiadau’r dyn yn rhai difrifol.