Fe fydd penaethiaid pêl-droed yng Nghymru’n sefydlu cronfa waddol o ganlyniad i dderbyn yr hawl i gynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd yn 2017.

Mae disgwyl i’r gronfa alluogi Cymdeithas Bêl-droed Cymru i fuddsoddi o leiaf £500,000 yn y byd pêl-droed ar lawr gwlad.

Bydd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei chynnal yn Stadiwm y Mileniwm ar Fehefin 3, 2017, yn ogystal â ffeinal y menywod ddeuddydd ynghynt.

Manteisio ar gyfle

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford: “Mae’n ornest enfawr – digwyddiad gwirioneddol fyd-eang.

“Dw i wedi bod i nifer o’r ffeinals hyn, a dydy e ddim fel gemau eraill. Mae’n enfawr.”

Ychwanegodd mai’r flaenoriaeth yw “manteisio ar y cyfle” sy’n cael ei gynnig i Gymru ac i’r byd chwaraeon.

“Mae’r aros, y paratoi yn gyffro i gyd. Mae’r ffigurau gwylio, gobeithio, yn cyrraedd tua 200 miliwn ar draws 200 a mwy o wledydd. Cynulleidfa fyw yn unig yw hynny.

“Mae’n ddigwyddiad mawr, a gobeithio bod gyda ni gyfle i fynd ag e o gwmpas y wlad i gyd a’i droi’n ddathliad ar gyfer Cymru gyfan.”