Mae amheuon a fydd bowliwr cyflym Awstralia, Ryan Harris yn holliach ar gyfer y prawf cyntaf yng Nghyfres y Lludw yng Nghaerdydd, sy’n dechrau ddydd Mercher nesaf.
Tynnodd Harris allan o garfan Awstralia i herio Swydd Essex yn Chelmsford wedi iddo anafu ei benglin yn ystod yr ornest yn Swydd Gaint yr wythnos diwethaf.
Roedd hyfforddwr Awstralia, Darren Lehmann wedi awgrymu bod lle Harris ymhlith yr unarddeg fyddai’n herio Lloegr yn y Swalec SSE yn ddibynnol ar ei ffitrwydd yn erbyn Swydd Essex.
Pe na bai Harris ar gael ar gyfer y prawf cyntaf, fe fyddai gan Awstralia ddewis o bedwar bowliwr cyflym – Peter Siddle, Mitchell Starc, Josh Hazlewood a Mitchell Johnson.
Mae disgwyl i hyfforddwr newydd Lloegr, Trevor Bayliss gyhoeddi eu carfan nhw’n ddiweddarach heddiw.