Rosemary Butler
Mae Llywydd y Cynulliad wedi ‘tri maen prawf’ ar gyfer sicrhau bod Bil Cymru yn ei gwneud hi’n eglur pa bwerau sydd wedi ei datganoli i Fae Caerdydd.

Dywedodd Rosemary Butler ei bod hi’n awyddus i sicrhau bod “eglurder, ymarferoldeb a dim tynnu pwerau presennol y Cynulliad yn ôl” yn dair prif amcan o’r setliad datganoli nesaf.

Ac mae disgwyl iddi ddadlau o blaid newid y dull o ddiffinio pwerau’r Cynulliad, wrth iddi roi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol heddiw.

‘Pwerau wedi’u cadw’

Ar hyn o bryd mae’r setliad datganoli yn diffinio yn union pa bwerau sydd wedi cael eu rhoi i’r Cynulliad yng Nghaerdydd a pha rai sydd wedi’u cadw gan Lywodraeth San Steffan.

Ond mae Comisiwn Silk wedi dadlau bod angen i Gymru gael model ‘pwerau wedi’u cadw’ tebyg i’r Alban, ble mae popeth wedi’i ddatganoli oni bai fod Llywodraeth San Steffan yn dweud yn benodol eu bod nhw’n cadw’r cyfrifoldeb.

Yn ôl Rosemary Butler, fe fyddai’r model hwn yn ei gwneud hi’n gliriach i bobl Cymru pa lefel o lywodraeth sydd yn gyfrifol am ba feysydd yn eu bywydau.

“Mae’r model presennol o roi pwerau cymhwysedd deddfwriaethol yn anfoddhaol,” meddai’r Llywydd.

“Wedi dweud hynny, nid yw symud tuag at fodel cadw pwerau yn ateb i bob problem. Bydd fy nghefnogaeth i unrhyw gynnig gan Lywodraeth y DU yn amodol ar fodloni tri maen prawf: Eglurder; ymarferoldeb; a dim troi’n ôl o ran cymhwysedd presennol y Cynulliad.”

‘Pynciau tawel’

Yn ôl y Llywydd mae’n gwneud synnwyr bod rhai ‘pynciau tawel’ sydd ddim yn cael eu rhestru’n benodol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, fel y cyfansoddiad ac amddiffyn, yn aros yn gyfrifoldebau ar gyfer Llywodraeth y DU.

Ond mae angen sicrhau ei bod hi’n glir fod rhai pwerau eraill yng ngofal gwleidyddion Bae Caerdydd, meddai, er mwyn lleihau dryswch a sicrhau nad oes rhai pwerau’n cael eu cymryd oddi wrth y Cynulliad yn ddistaw bach.

“Os caiff ‘pynciau tawel’ eraill, fel cyfraith cyflogaeth, neu gyfraith sifil neu gyfraith droseddol – sy’n bwysig, eu cadw heb gafeat cryf, byddai hyn yn arwydd sylweddol o dynnu cymhwysedd yn ôl, fel y dehonglwyd gan y Goruchaf Lys yn achos y Bil Sector Amaethyddol,” meddai Rosemary Butler.