Mae prif swyddog addysg Sir Gâr wedi dweud bod angen dileu’r cymhwyster ‘Cymraeg Ail Iaith’ a sicrhau bod disgyblion ysgol yng Nghymru i gyd yn astudio’r pwnc ar yr un lefel.

Dywedodd Pennaeth Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Gaerfyrddin, Gareth Morgans, bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu argymhellion adroddiad sydd eisoes wedi galw am y newid hwnnw i’r cwricwlwm, yn ôl ymgyrchwyr iaith.

Yn 2012 fe wnaeth pwyllgor gafodd ei chadeirio gan yr Athro Sioned Davies gynhyrchu adroddiad i Lywodraeth Cymru yn dweud bod angen rhoi’r gorau i ddysgu ‘Cymraeg Ail Iaith’, a bod angen i bawb ddysgu Cymraeg ar yr un continwwm.

Croeso gan ymgyrchwyr

Fe wnaeth Gareth Morgans y sylwadau mewn cyfarfod ‘Tynged yr Iaith yn Sir Gâr’ dros y penwythnos, digwyddiad gafodd ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith i holi cynghorwyr a swyddogion am ddatblygiad addysg Gymraeg yn y sir.

Cafwyd croeso i sylwadau’r swyddog addysg gan lefarydd y mudiad iaith ar addysg, Ffred Ffransis.

“Mae’r llywodraeth wedi cymeradwyo Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gar, ac mae gosod pob ysgol ar gontinwwm tuag at gyflwyno addysg Gymraeg yn rhan hanfodol o’r cynllun,” meddai Ffred Ffransis.

“Ac eto mae trefniadau’r llywodraeth ei hun yn gwneud hwn yn broses hirwyntog gan fod yn rhaid cael ymgynghoriad hirfaith bob cam o’r ffordd os bydd un person yn y gymuned yn gwrthwynebu’r Gymraeg.

“Mae 40% o ddisgyblion Caerfyrddin yn dal i gael eu hamddifadu o’r gallu i weithio’n Gymraeg, ac mae angen i’r llywodraeth roi’r gallu i’r Cyngor Sir unioni’r cam.”