Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion yn dilyn dau ymosodiad ym Mhrestatyn fore Sul.

Maen nhw’n credu mai’r un person oedd yn gyfrifol am y ddau ymosodiad ger gorsaf betrol Tesco yn Stryd Fawr y dref am oddeutu 2 o’r gloch y bore.

Cafodd un dyn anafiadau difrifol i’w ben ac fe gafodd ei gludo i uned arbenigol yn Stoke.

Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Iestyn Davies: “Fe wyddom fod y dyn sy’n gyfrifol am yr ymosodiad wedi croesi pont y rheilffordd ar droed ar waelod y Stryd Fawr ac fe aeth i’r Stryd Fawr ger tafarn Cook House.

“Mae’n bosib ei fod wedi cerdded o’r orsaf ei hun neu o gyfeiriad Heol Bastion.”

Mae’r dyn yn ei 20au, a chanddo wallt golau byr a blewiach ar ei wyneb. Roedd yn siarad ag acen leol.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101, neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.