Mae un o ddigwyddiadau seiclo mwyaf gogledd Cymru wedi cael ei ganslo am nad oedd digon o bobol wedi cofrestru i gymryd rhan.
Roedd mwy na 2,000 o seiclwyr yn rhan o ras Etape Cymru’r llynedd ond mae’r trefnwyr, Human Race, wedi’i chael hi’n anodd denu ymgeiswyr y tro hwn.
Roedd disgwyl i’r ras gychwyn yn Wrecsam a dringo i Fryniau Clwyd cyn gorffen yn ôl yn Wrecsam ar 13 Medi.
“Mae’n fuddsoddiad mawr i Human Race drefnu digwyddiad ar lefel mor fawr ac ar hyn o bryd, nid oes ganddom ni’r isafswm o enwau er mwyn medru parhau a’n cynlluniau uchelgeisiol,” meddai llefarydd.
“Nid ydym eisiau gostwng safon y ras i ymgeiswyr mewn unrhyw ffordd, felly rydym wedi penderfynu canslo’r digwyddiad.”
Trafferthion
Er bod y ras wedi’i chysylltu gydag enwau fel y seiclwr Geraint Thomas yn y gorffennol, yn 2013 cafodd hoelion eu gosod ar y ffordd gan arwain at ddwsinau o feicwyr yn cael tyllau yn eu holwynion.
Ac yn 2014, bu’n rhaid newid llwybr y ras wedi i drigolion gwyno nad oedden nhw’n medru mynd allan o’u cartrefi.
Bydd pawb sydd wedi cofrestru yn derbyn eu harian yn ôl meddai’r trefnwyr.