Leighton Andrews yw'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Dylai ad-drefnu llywodraeth leol arwain at ragor o gyrff yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg – dyna neges ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mewn llythyr at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus.

Daw’r alwad wedi i’r Gweinidog Leighton Andrews wahodd sylwadau ar gynnig i gwtogi nifer y cynghorau yng Nghymru o 22 i wyth neu naw.

Ar hyn o bryd, Gwynedd yw’r unig gyngor sir lle mae’r holl waith mewnol yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Gymdeithas yn awgrymu rhoi mwy o gyfrifoldeb i gynghorau cymuned fel un ffordd o gynyddu’r defnydd o Gymraeg – yn benodol o ran materion cynllunio, sy’n debygol o effeithio ar gymunedau Cymraeg.

Amddiffyn

Mewn llythyr at y Gweinidog, ysgrifenna Cadeirydd y mudiad Jamie Bevan: “Mae angen amddiffyn ac ehangu nifer y cyrff sydd yn gweinyddu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ar fyrder.

“Wrth i’r newidiadau hyn [cwtogi nifer cynghorau] ddod i rym, bydd yr unedau yn cynyddu mewn maint, a thrwy hynny yn cryfhau’r ymdeimlad fod atebolrwydd yn pellhau. Gwanhau fydd y cysylltiad rhwng yr etholwr a’r darparwr, a bydd hynny yn cael effaith niweidiol ar ddemocratiaeth.

“Credwn fod angen adfywio a chryfhau democratiaeth, yn enwedig ar lefel leol iawn. Gwelir bod mwy o rôl iddynt yn benodol yn y system gynllunio.

“Bydd yn fodd i gywiro diffygion y system gynllunio a’i heffaith ar y Gymraeg gan seilio’r system ar anghenion lleol yn hytrach nag ar ystadegau cenedlaethol”