Llys y Goron Yr Wyddgrug
Mae disgwyl i bedwar dyn glywed heddiw beth yw dyfarniad y rheithgor mewn achos o gam-drin plant yn ardal Wrecsam sydd yn dyddio nôl i’r 1980au.

Cafodd achosion eu dwyn yn erbyn Roger Griffiths (76 oed), Keith Stokes (62 oed), George Phoenix (62 oed) ac Edward Huxley (70 oed) mewn ymchwiliad eang i achosion o droseddau rhywiol yn erbyn plant.

Mae tri dyn – Gary Cooke, David Lightfoot a Roy Norry – eisoes wedi cael eu canfod yn euog o nifer o droseddau ac maen nhw’n aros i gael eu dedfrydu.

Fe glywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod ymosodiadau ar sawl person mewn partïon rhyw yng nghartref Gary Cooke.

Cafodd y saith dyn eu harestio fel rhan o ymchwiliad Pallial i achosion hanesyddol o gam-drin rhywiol yng ngogledd Cymru.

Mae Roger Griffiths a Keith Stokes eisoes wedi’u canfod yn ddieuog o un cyhuddiad yr un, ond mae nifer o gyhuddiadau eraill yn erbyn y pedwar yn dal i gael eu hystyried.