Mae Ferrari a chert golff Bentley ymhlith yr eitemau mwyaf anarferol sydd wedi cael eu meddiannu gan Heddlu’r De yn ystod cyrchoedd y bore ma.

Fe fu’r heddlu yn cynnal cyrchoedd yng Nghaerdydd fel rhan o Ymchwiliad Fulcrum, sy’n ceisio atal gweithredoedd anghyfreithlon megis gwerthu cyffuriau, troseddau rhyw a gyrru’n anghyfreithlon.

Mae’r ymchwiliad yn cael ei gynnal ar y cyd â’r Asiantaeth Torcyfraith Genedlaethol yn nwyrain y brifddinas.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod yr ymchwiliad yn “enghraifft o weithio mewn partneriaeth ar ei orau”.