Fe fydd mwy o fyfyrwyr nag erioed yn derbyn cefnogaeth ariannol ar gyfer eu cyfnod yn y brifysgol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni.

Fe fydd 180 o fyfyrwyr fydd yn astudio pynciau fel Daearyddiaeth, Drama, Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith mewn prifysgolion yng Nghymru yn cael  £1,500 neu £3,000 dros dair blynedd.

Nod yr ysgoloriaethau yw cynnal a chynyddu’r niferoedd sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn prifysgolion ledled Cymru.

Ac eleni am y tro cyntaf, fe fydd myfyrwyr ar gyrsiau meddygaeth yn derbyn y grantiau.

Buddion

Cafodd Sean Downes o Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam ei ddewis i dderbyn ysgoloriaeth gwerth £1,500 i astudio meddygaeth:

‘‘Bydd ysgoloriaeth y Coleg o gymorth mawr i mi a bydd astudio’r pwnc yn rhannol trwy’r Gymraeg yn fy ngalluogi i gyfathrebu â chleifion yn hyderus,” meddai.

“Roedd y broses ymgeisio yn syml a chyflym, ac mae’r buddion byr a hir dymor yn ardderchog.’’

Mae’r Coleg Cymraeg hefyd yn cynnig Ysgoloriaethau Meistr gwerth £3,000.