Y dorf yn ystod gem Cymru v Gwlad Belg
Mae ymosodwr Cymru Hal Robson-Kanu wedi disgrifio’r fuddugoliaeth dros Wlad Belg nos Wener fel y canlyniad pêl-droed gorau yn hanes y genedl.
Llwyddodd tîm Chris Coleman i gipio buddugoliaeth anhygoel o 1-0 yng Nghaerdydd diolch i gôl Gareth Bale ar ôl 25 munud.
Ac mae’r canlyniad wedi rhoi Cymru ar drothwy cyrraedd Pencampwriaethau Ewrop 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, 58 mlynedd ers i’r tîm gyrraedd eu twrnament rhyngwladol diwethaf.
Mae gan Gymru bedair gêm yn weddill o’r ymgyrch a dal heb golli, ac fe fyddai trechu Cyprus ac Israel ym mis Medi yn sicrhau eu lle nhw yn Ffrainc doed a ddelo.
‘Clod i’r genedl’
Y tro diwethaf i Gymru drechu tîm o sêr rhyngwladol cystal â hyn mewn gêm gystadleuol oedd y fuddugoliaeth o 2-1 dros yr Eidal yn 2002.
Ond yn ôl ymosodwr Cymru a Reading doedd dim byd yn rhagori ar bwysigrwydd y canlyniad yn erbyn Gwlad Belg nos Wener, ac roedd diolch mawr i’r cefnogwyr am hynny.
“Mae’r cefnogwyr wedi bod yn hollol wych, yn enwedig ar nodyn personol i fi, maen nhw wedi cefnogi pob un chwaraewr. Ar y cae ’da ni’n teimlo eu cefnogaeth, nhw wir oedd y 12fed dyn,” meddai Hal Robson-Kanu.
“Rydan ni eisiau mynd i’r Ewros, dyna rydan ni wedi’i ddweud drwy gydol hyn i gyd, a dyw’r canlyniad [nos Wener] ddim yn newid unrhyw beth. Mi fyddan ni’n parhau i drio ennill gemau a chyrraedd yno.
“I mi dyma’r noson fwyaf yn hanes pêl-droed Cymru. Yn yr oes yma heddiw, mae’r ffaith bod gwlad fel ni yn perfformio fel hyn yn glod i bob un chwaraewr, staff, aelod o’r tîm hyfforddi, a chefnogwyr. Mae’n glod i’r genedl.”
Ymdrech fawr
Cafodd Robson-Kanu ei eilyddio gydag eiliadau’n weddill o’r gêm, a hynny wedi iddo redeg yn ddiflino am 90 munud dros yr achos.
Fe fethodd ambell gyfle, gan gynnwys un euraidd yn yr hanner cyntaf, ond fo enillodd y gic rydd a arweiniodd at gôl Gareth Bale.
“Chi wastad yn cael cyfleoedd, gyda’r chwaraewyr sydd gennym ni maen nhw wastad yn mynd i greu rhywbeth. Nes i ddim cymryd hwnna [y cyfle euraidd], ond y peth pwysig oedd cael y canlyniad yna a dyna wnaethon ni,” meddai’r ymosodwr 26 oed.
“Fe wnaeth pob un ohonom ni roi 110%, roedden ni mor benderfynol o berfformio ac fe wnaethon ni hynny.
“Fel cenedl fe roddon ni ymdrech fawr, mae’r cefnogwyr wedi bod tu ôl ni drwy’r wythnos. Roedden ni’n teimlo’r gefnogaeth yn ystod yr anthem genedlaethol, pan sgorion ni, ar ddiwedd y gêm.
“Rydan ni gyda’n gilydd fel un, ac rydan ni’n gryfach oherwydd hynny.”