Mae adroddiadau’n awgrymu bod is-reolwr Cymru, Kit Symons wedi ymddiswyddo.
Bu Symons yn gynorthwy-ydd i Chris Coleman ers 2012, ond mae’n debyg ei fod yn gadael y swydd i ganolbwyntio ar ei gyfrifoldeb fel rheolwr Fulham.
Cafodd ei benodi’n rheolwr Fulham yn 2014 yn dilyn cyfnod fel hyfforddwr dan 21 y clwb.
Yn dilyn buddugoliaeth Cymru nos Wener, dywedodd Chris Coleman ei fod yn disgwyl i Symons adael yn fuan.
“Fe gawn ni sgwrs, ond dw i’n meddwl y bydd rhaid i Kit roi’r gorau iddi i ganolbwyntio ar Fulham.
“Bydd yn drueni pe bai’n mynd gan ei fod wedi gwneud yn dda iawn, ond mae rheoli clwb a gweithio gyda’ch gwlad yn beth anodd iawn i’w wneud.
“Mae e fwy na thebyg yn emosiynol iawn gan ei fod e wedi cynrychioli Cymru ers 25 o flynyddoedd fel chwaraewr a hyfforddwr ac fe fydda i’n gweld ei eisiau.”
Ychwanegodd fod olynydd i Symons wedi’i ddewis, ond nad oes modd cadarnhau’r penodiad ar hyn o bryd.